Croeso i Clwb Golff Porthmadog
Welcome to Porthmadog Golf Club
The course is open. With the following restrictions: Preferred Lies

Croeso - Welcome

Hoffem estyn croeso cynnes i’n holl westeion yng Nghlwb Golff Porthmadog.
Mae gan ein cwrs a’n clwb bopeth sydd ei angen ar gyfer diwrnod allan gwych boed gyda theulu a ffrindiau neu ar ddiwrnod golff cymdeithasol.
Mae’r cwrs wedi’i leoli ym Morfa Bychan, 3 milltir i ffwrdd o dref harbwr Porthmadog ac fe’i sefydlwyd ym 1905 gan James Braid, cynllunydd cwrs athrylithgar ei gyfnod.
Mae'n gwrs twyni tywod traddodiadol, cyfeillgar, heriol na ddylid yn wir ei fethu.

Rhostir yw’r naw blaen yn bennaf a’r naw cefn yn dwyni tywod, gyda golygfeydd godidog o arfordir Bae Ceredigion a mynyddoedd Eryri.
Yn 2005 bu inni ddathlu 100 mlynedd o ragoriaeth golff twyni tywod.
Mae gennym ni fygis, trolïau trydan a throlïau tynnu ar gael i'w llogi gan ein Pro Mark Pilkington.
Mae gennym 2 faes ymarfer, rhwyd ymarfer a lawnt bytio ar y safle i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich rownd.

Ar ôl eich gêm mae croeso i chi fwynhau pob rhan o'r clwb.
Darperir lle aros cyfforddus ar y safle – sef 5 Ystafell Dormi - yn cynnwys 4 Ystafell Twin ac 1 Ystafell Gwely Bync gydag ystafell molchi ym mhob un. Mae hefyd ystafell hwylus i gymdeithasu.
Mae'r ardal hefyd yn cynnig gweithgareddau eraill ar wahan i golff.
Gellid ymweld â Mynyddoedd Eryri neu Phentref Eidalaidd enwog Portmeirion neu ewch ar Reilffordd Ffestiniog a'r Ucheldir ymysg lliaws o atyniadau eraill.




We’d like to extend a warm welcome to all our guests at Porthmadog Golf Club.
Our course and clubhouse has everything required for a great day out whether with family and friends or on a society golf day. The course is situated in Morfa Bychan, 3 miles away from the harbour town of Porthmadog and was established in 1905 by James Braid, the genius course designer of his day.
It is a traditional links course, friendly, challenging and not to be missed.

The front nine is predominantly heathland and the back nine links, with stunning views of the Cardigan Bay coastline and Snowdonia mountain range.
In 2005 we celebrated 100 years of links golfing excellence.
We have buggies, electric trolleys and pull trolleys available to hire from our Professional Mark Pilkington.
We have 2 practice grounds, a practice net and a putting green on site to help you prepare for your round.

After your game you are welcome to enjoy all areas of the clubhouse.
The area also offers other activities away from golf.
Visit the mountains of Snowdonia or the famous Portmeirion Italian Village or ride the Ffestiniog and Highland Railway.